Mae tri dyn wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl i beiriant arian parod gael ei ddwyn o Ysbyty Glan Clwyd yn Sir Ddinbych.

Aethpwyd a’r peiriant o’r ysbyty toc cyn 3am dydd Mercher. Cafodd tri dyn o Lannau Merswy eu harestio ond maen nhw bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod yr heddlu yn ymchwilio.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un welodd gar Volvo V50 tywyll ger yr ysbyty dydd Mercher.

Maen nhw’n credu bod BMW 3 ddarganfuwyd yn Llanelwy ddydd Mercher hefyd wedi’i gysylltu gyda’r un drosedd.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 0845 6071002.