Mae peryg fod cynghorau lleol yn gwerthu ffermydd er mwyn codi arian gan ei gwneud hi’n anoddach fyth i bobol newydd ddod i mewn i’r diwydiant amaeth.
Dyna’r neges mewn llythyr sydd wedi ei sgrifennu gan Is-bwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad at y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones.
Maen nhw’n dweud bod ffermydd cyngor o les cenedlaethol ond nad ydyn nhw’n aml yn cyflawni eu gwaith o roi cyfle i bobol newydd ddod i mewn i’r diwydiant.
Ffigurau anghywir
Yn ystod ymchwiliad yr Is-bwyllgor, fe ddaeth hi’n amlwg hefyd fod ffigurau’r Llywodraeth yn anghywir.
Roedden nhw’n dibynnu ar ffigurau gan gorff proffesiynol a oedd yn awgrymu fod ffermydd cyngor ar gynnydd yng Nghymru; mewn gwirionedd, roedd llai.
Mae Cadeirydd yr Is-bwyllgor, Rhodri Glyn Thomas, wedi galw ar y Gweinidog i gymryd rôl fwy gweithredol gan sicrhau fod awdurdodau lleol yn rheoli’r ystâd yn well a threfnu mwy o gydweithio gyda’r sector ffermydd preifat.
Problemau gyda symud ymlaen
Roedd yr Is-bwyllgor wedi nodi nifer o broblemau:
• Bod cynghorau’n gwerthu ffermydd er mwyn codi arian ond heb fod yn ail-fuddsoddi llawer o hwnnw yn yr un maes.
• Nad oedd ffermwyr yn symud ymlaen yn ôl y disgwyl o ffermydd rhent y cynghorau i brynu eu ffermydd eu hunain – am fod rhai’n gyndyn i ymddeol, am fod ffermydd yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth ac am fod tenantiaethau’n fyr a drud yn y sector preifat.
• Mae llai o lefydd preifat i’w rhentu yng Nghymru beth bynnag ac mae’r nifer wedi disgyn ymhellach.
• Dyw cyflwr rhai o’r tai ffermydd ddim yn dda ac mae’r Is-bwyllgor yn galw am reolau newydd sy’n mynnu bod rhaid iddyn nhw gwrdd â’r un safonau â thai cyngor neu dai cymdeithasol.
• Gan fod ffermwyr yn aml yn amharod i ymddeol a rhoi lle i eraill, mae’r Is-bwyllgor yn dweud y dylai awdurdodau lleol gael polisïau i sicrhau bod cartrefi newydd ar gael iddyn nhw.
Un o’r prif argymhellion
“
Mae’r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i feithrin gwell cysylltiadau â thirfeddiannwr sector preifat, ac yn annog integreiddio gwell rhwng y ddau sector. Dylai Llywodraeth Cymru hefyd weithio gyda landlordiaid sector preifat i ganfod rhwystrau i rentu a’u goresgyn, a chanfod ffyrdd o roi mwy o sicrwydd i denantiaid yn y sector breifat drwy brydlesi mwy hirdymor.” – y llythyr at y Gweinidog.