Mae gêm Cwpan Heineken y Scarlets yn erbyn Treviso ymysg y pwysicaf yn y tymor, yn ôl yr hyfforddwr Nigel Davies.
Mae Perpignan a’r Scarlets ar 10 pwynt a Chaerlŷr ar 11 pwynt yng ngrŵp 5. Ond byddai buddugoliaeth yn yr Eidal yn rhoi’r Scarlets mewn safle cryf.
“Mae hwn yn un o’r gemau pwysicaf hyd yn hyn y tymor yma. Mae’n holl bwysig os ydan ni am gadw’r momentwm i fynd,” meddai Nigel Davies.
“Fe fyddai ennill y gêm yma’n gamp anferth i ni ar ôl y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Y flaenoriaeth yw perfformio’n dda a sicrhau’r fuddugoliaeth.
“Mae pawb yn parchu’r Eidalwyr. Maen nhw’n dîm cryf a phwerus. Ond r’yn ni’n gwybod ein bod ni’n gallu chwarae yn well.”
Newyddion y tîm
Fe fydd y Scarlets heb Stephen Jones, Matthew Rees a David Lyons sydd wedi eu hanafu.
Ond fe ddywedodd Nigel Davies bod y garfan yn barod am y gemau mawr ac na fyddai absenoldeb y tri yn effeithio’n ormodol arnyn nhw.
“Rwy’n optimistaidd oherwydd mae’r bois wedi dangos eu bod nhw’n barod,” meddai.
“Mae Ben Morgan wedi bod yn arbennig yn safle’r wythwr, mae Rhys Priestland yn gwneud yn dda yn safle’r maswr a’r bachwr Ken Owens wedi bod yn gryf,” meddai Nigel Davies.
“Mae adeiladu cryfder yn y garfan yn holl bwysig ac mae’r grŵp o fois sydd gyda ni yma ar hyn o bryd wedi dangos fod ganddyn nhw’r ymrwymiad a brwdfrydedd i wisgo’r crys.”
Carfan y Scarlets
Dan Newton, Morgan Stoddart, Gareth Maule, Regan King, Sean Lamont, Rhys Priestland, Tavis Knoyle.
Iestyn Thomas, Ken Owens, Simon Gardiner, Vernon Cooper, Dominic Day, Josh Turnbull, Johnathan Edwards, Ben Morgan.
Eilyddion- Emyr Phillips, Rhodri Jones, Phil John, Jonny Fa’amatuainu, Rob McCusker, Martin Roberts, Scott Williams, Lee Williams.