Fe fydd un o uwch-arolygyddion Heddlu Gogledd Cymru yn trydar trwy’r nos heno, ar un o nosweithiau prysura’r flwyddyn.

Mae disgwyl na fydd ‘Black Friday’ – y dydd Gwener yr wythnos cyn y Nadolig – yn un mor brysur i dafarndai eleni oherwydd yr eira mawr.

Ond mae disgwyl y bydd canol trefi yn dal yn llawn o bobol yn dathlu ar ddiwedd eu partïon gwaith.

Serch hynny fe fydd Simon Shaw, yr uwch swyddog sy’n rheoli canolfan rheolaeth Llanelwy, yn efelychu Heddlu Manceinion Fwyaf, fu’n trydar am gyfnod o 24 awr yn ystod mis Hydref.

Fe fydd hi’n bosib dilyn trydar Simon Shaw heno o 7pm ymlaen fan hyn: Twitter.com/suptsimonshaw

“Y cyfnod cyn y Nadolig, yn enwedig y dydd Gwener a dydd Sadwrn yr wythnos flaenorol, ydi un o’r amseroedd prysuraf i ni,” meddai wrth bapur newydd y Daily Post.

“Rydym ni’n derbyn tua 240 galwad 999 bob dydd, ond fel arfer mae’r galwadau yn dyblu’r adeg yma o’r flwyddyn.

“Nod y trydar fydd creu ryw fath o ddyddiadur fydd yn rhoi syniad i’r cyhoedd ynglŷn â beth ydan ni’n ei wneud.

“Fydda’i ddim yn trydar pob dim ond yn ceisio rhoi blas i bobol ar y galwadau ydan ni’n eu derbyn.”