Mae’r Gweinidog Treftadaeth, Ieuan Wyn Jones, wedi rhybuddio bod mwy o eira ar y ffordd ac na ddylai unrhyw un deithio’n bell heb fod angen.
Mae gogledd a gorllewin Cymru eisoes wedi eu taro’n wael wrth i’r eira chwythu i mewn o gyfeiriad Môr Iwerddon, ac mae tua 800 o ysgolion wedi gorfod cau.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi galw ar fflyd o gerbydau rhofio eira heddiw er mwyn clirio’r ffyrdd sydd wedi eu cau gan yr eira trwm.
Dywedodd y llywodraeth eu bod nhw wedi llwyddo i gadw holl brif ffyrdd Cymru ar agor hyd yn hyn. Ond mae disgwyl i fwy o eira ddisgyn dros Gymru heno ac yn oriau man bore dydd Sadwrn.
“Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda chynghorau a’r asiantaeth priffyrdd er mwyn sicrhau ein bod ni’n ymateb cyn gynted â bodd modd i’r tywydd,” meddai Ieuan Wyn Jones.
“Fe fydd ein hymdrechion yn parhau dros yr oriau nesaf ac mae disgwyl lot mwy o eira.
“Os ydych chi’n teithio gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynllunio’r siwrne o flaen llaw, yn mynd a blancedi ychwanegol neu ddillad cynnes, a diodydd cynnes gyda chi.
“Ceisiwch aros ar y priffyrdd sy’n fwy tebygol o fod wedi eu graeanu.”
‘Digon o raean ar ôl‘
Dywedodd y llywodraeth fod ganddyn nhw ddigon o raean er mwyn cadw’r holl brif ffyrdd ar agor yn y dyfodol agos. Cafodd 5,000 tunnell ei fewnforio’r wythnos diwethaf a bydd 12,000 tunnell arall yn cyrraedd tua dydd Nadolig.
Maen nhw hefyd mewn trafodaethau gyda Chymdeithas Lywodraeth Leol Cymru er mwyn symud graean i’r ardaloedd sydd fwyaf ei angen.
Mae eu swyddogion yn defnyddio technoleg GPS er mwyn cadw llygad ar le mae eu tractorau a’u cerbydau graenu, er mwyn gallu eu dargyfeirio’n gyflym i’r ardaloedd ble mae’r eira ar ei drymaf.
Fe fydden nhw hefyd yn ymateb pan mae cerbydau yn mynd yn gaeth, neu os ydi pobol yn gaeth yn eu ceir, medden nhw.