Mae RSPB Cymru wedi galw ar y cyhoedd i gadw llygad aam dylluanod yn ystod y dydd ar ôl i sawl un o’r adar drigo o ganlyniad i’r tywydd gaeafol yn Lloegr a’r Alban.

Maen nhw’n pryderu y bydd yr eira trwm sydd wedi taro Cymru dros nos, ac yn debygol o effeithio ar fannau eraill, yn cael yr un effaith yn fan hyn.

Dywedodd pennaeth cadwraeth RSPB Cymru, Reg Thorpe, mai un arwydd nad yw’r tylluanod yn ymdopi gyda’r tywydd oer ydi pan maen nhw’n cael eu gweld yn hela yn ystod y dydd.

“R’yn ni’n annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus a rhoi gwybod os ydyn nhw’n gweld tylluanod sy’n dost neu wedi’u hanafu,” meddai Reg Thorpe.

Marw

Mae sawl tylluan wedi marw yn ardal gogledd Lloegr ac mae’r RSPB yn credu bod hynny oherwydd bod y tywydd rhewllyd yn ei gwneud hi’n amhosib i’r adar ddod o hyd i fwyd.

Dywedodd RSPB Cymru nad oedd unrhyw adroddiadau o dylluanod yn marw yng Nghymru eto.

“Mae tylluanod yn bwydo ar anifeiliaid bach gan gynnwys llygod, ond mae’n amhosib iddyn nhw ddod o hyd i’r rheiny pan mae’r tir wedi cael ei orchuddio gan eira,” meddai llefarydd RSPB Cymru, Dana Thomas.

“Fe fydd y broblem yn waeth i dylluanod sydd wedi cael ei geni eleni ac sydd heb brofi’r fath dywydd o’r blaen.”