Mae disgwyl y bydd Opera Cenedlaethol Cymru’n cael cynnydd o chwarter miliwn yn ei grantiau gan Gyngor Celfyddydau Cymru – ond fe fydd rhai cwmnïau eraill yn colli.

Fe fydd y Cyngor yn cyhoeddi eu cynlluniau gwario heddiw, yn sgil gostyngiad o tua 4% yn yr arian sydd ar gael a’r disgwyl yw y bydd mwy o gefnogaeth i rai o’r cwmnïau mawr a’r cwmnïau newydd, gyda thoriadau i eraill.

Fe fydd yr arian yn cael ei rannu rhwng ychydig tros 70 o gyrff gwahanol a’r Opera sy’n cael mwya’ o’r cyfan – mwy na £4.6 miliwn gan y Cyngor y llynedd a thua £150,000 yn uniongyrchol gan Lywodraeth y Cynulliad.

Mae hefyd yn derbyn £6.76 miliwn gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, ond fe fydd hynny’n cwympo i £6.29 miliwn y flwyddyn nesa’.

Ymhlith yr enillwyr eraill, bydd dau gwmni newydd, y cwmni theatr cenedlaethol Saesneg a Dawns Cymru. Fe fydd cwmni theatr Hijinx, sy’n gweithio gyda phobol ag anawsterau dysgu, yn un o’r rhai sy’n colli arian.

Llun: Canolfan y Mileniwm, cartref y Cwmni Opera