Mae Llywydd y Cynulliad wedi beirniadu aelodau Awdurdod S4C gan ddweud “nad eu swyddi nhw yw rhedeg y sianel deledu”.

Daw ei sylwadau ar ôl i’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig holi Is-gadeirydd a Prif Weithredwr dros dro’r sianel, Rheon Tomos ac Arwel Ellis Owen, ddoe.

Dywedodd Rheon Tomos bryd hynny fod yr Awdurdod wedi bod yn gofyn am wybodaeth gan y prif swyddogion ond heb fod yn ei chael.

Yr anghytundeb sylfaenol rhyngddyn nhw a phrif swyddogion y sianel oedd un o’r prif resymau tros ddiswyddo’r cyn Brif Weithredwr, Iona Jones, meddai.

Dywedodd Dafydd Elis-Thomas wrth Golwg 360 heddiw ei fod o’n parhau i bryderu am ddyfodol y sianel ar waethaf gonestrwydd y rhai fu’n rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor ddoe.

“Roedd y pethau oedd yn cael eu dweud ynglŷn â llywodraethu corff cyhoeddus a llywodraethu unrhyw gwmni, mater sydd wedi bod o ddiddordeb mawr i fi oherwydd fy ngwaith fan hyn, yn rhyfeddol,” meddai Dafydd Elis-Thomas.

“Mae’r syniad bod cyfarwyddwyr cwmni i fod yn rhan o drefn lywodraethol ddydd i ddydd ac nid y prif weithredwr yn nonsens. Mae fel pe bawn i yn edrych ar faterion staff y Cynulliad ac nid y prif weithredwr.

“Holl bwynt cyfundrefn sy’n cael ei lywodraethu’n iawn yw bod gennych chi gynrychiolwyr sydd wedi cael eu penodi neu eu hethol, fel yn ein hachos ni yn Aelodau Cynulliad, a bod gennych chi gyfarwyddwyr, prif weithredwr neu benaethiaid sy’n gyfrifol am reoli’r gwasanaeth o ddydd i ddydd.

“Dyna sut allwch chi gael y gwahaniaeth wedyn rhwng y strategaeth hir dymor a golwg gyffredinol ar beth yw bwriad corff, a beth sy’n digwydd yn ymarferol.

“Y peth cyntaf wnaethon ni fan hyn pan sefydlwyd Comisiwn y Cynulliad nôl yn 2007 oedd cael sesiynau manwl o seminarau a thrafodaeth ynglŷn â’n rôl ni a beth yw rôl unrhyw gyfarwyddwr neu aelod penodedig ar unrhyw gorff cyhoeddus neu gwmni mawr.

“Dydw i ddim yn deall o ble mae’r syniadau yma yn dod. Nid job aelodau S4C yw rhedeg sianel deledu.”

Canmol y Pwyllgor Dethol

Dywedodd Dafydd Elis-Thomas ei fod o’n credu bod yr Aelodau Seneddol o Gymru ar y Pwyllgor Dethol wedi gwneud job dda o fynd at wraidd problemau S4C.

“Roedd y Pwyllgor Dethol wedi dangos eu bod nhw’n cymryd eu cyfrifoldeb o ddifrif,” meddai Dafydd Elis Thomas.

“Rydw i’n gobeithio y byddan nhw’r un mor bendant wrth holi’r gweinidogion yn yr adran sy’n gyfrifol am S4C, sydd wedi ymddwyn yn gyfan gwbl anghyfrifol.”

Fis Ionawr, bydd y Gweinidog Diwylliant, Ed Vaizey, yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Dethol ar ran adran ddiwylliant Llywodraeth San Steffan.