Mae Mark Williams o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi ymosod ar benderfyniad Llywodraeth San Steffan i gau Llys Ynadon yn Aberteifi.
Dywedodd ei fod o eisoes wedi ymgyrchu yn erbyn cau’r llys a dywedodd fod y penderfyniad heddiw yn ‘ergyd enfawr’.
Byddai’r gorfodi pobol i deithio’n rhy bell i gyrraedd y llysoedd ynadon agosaf, sydd yn Aberystwyth a Hwlffordd, meddai.
Daw ei sylwadau yn sgil y cyhoeddiad brynhawn ddoe y bydd 12 o lysoedd ynadon, a pedwar o lysoedd sirol, Chymru’n cael eu cau.
Ymhlith y llysoedd eraill sy’n mynd mai Llangefni, gan adael dim ond un llys ynadon yn Ynys Môn.
Fe fydd llys ynadon y Barri hefyd yn cau, er gwaetha’ pryderon na fydd llys Caerdydd yn gallu delio gyda’r cynnydd mewn gwaith.
“Mae’r penderfyniad yn ergyd enfawr, a dw i ddim yn credu eu bod nhw wedi rhoi ystyriaeth llawn i’r pellter teithio a’r cysylltiadau trafnidiaeth cyhoeddus gwael,” meddai Mark Williams.
“Ni fydd pobl o Aberteifi yn gallu cyrraedd llysoedd yn Aberystwyth a Hwlffordd os ydi achos llys ben bore. Fe fydd y newid yn hynod anghyfleus i rai pobol.
“Dw i’n ofni y bydd y penderfyniad hwn yn amharu ar allu pobol Ceredigion i gael cyfiawnder.
“Yn ogystal a hynny dw i’n credu y bydd goblygiadau i wasanaethau cyfreithiol yn Aberteifi.
“Os yw’r Llywodraeth am gau adeiladau llysoedd, rhaid iddynt roi ystyriaeth fwy difrifol i gael adeiladau symudol.
“Fyddai rhain ddim yn lysoedd traddodiadol, ond fe fyddwn nhw’n rhoi’r cyfle i bobl gael cyfiawnder yn lleol.”