Mae un o flogwyr Ceidwadol mwyaf dylanwadol Prydain wedi cyhoeddi ei fod o’n rhoi’r gorau iddi.

Roedd blog Iain Dale ymysg y blogiau gwleidyddol cyntaf a mwyaf poblogaidd.

Wrth ymadael ysgrifennodd ei fod o’n teimlo bod blogio ei farn ar lein yn peryglu llwyddiant ei raglen radio dyddiol a’i gwmni cyhoeddi.

Ychwanegodd bod blogio wedi mynd yn fwrn dros y misoedd diwethaf ac nad oedd o “am roi ei iechyd yn y fantol”.

Dywedodd y blogiwr nad oedd o am roi’r gorau iddi oherwydd bod y Blaid Geidwadol bellach mewn grym.

“Mae rhai pobol yn dweud bod blogio pan mae’r blaid ydach chi’n ei gefnogi mewn pŵer yn llai diddorol na pan maen nhw’n wrthblaid. Dydw i erioed wedi cytuno gyda’r ddadl yna,” meddai.

“Rydw i’n credu fy mod i wedi bod yn agored iawn ynglŷn â lle mae’r glymblaid wedi mynd o’i le, ond rydw i’n derbyn nad dyna’r canfyddiad.”