Mae lladron wedi dwyn peiriant arian o ysbyty Glan Clwyd fore heddiw.

Fe gafodd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru eu galw i’r Ysbyty ym Modelwyddan toc ar ôl 3 y bore, gan ddarganfod bod y peiriant wedi ei ddwyn.

Mae’r Heddlu’n awyddus i ddod o hyd i dri dyn a gafodd eu gweld yn y cyffiniau.

Nid yw’r Heddlu’n gwybod faint o arian gafodd ei ddwyn eto ond mae’r ymchwiliadau’n parhau.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 08456 071 002, neu Taclo’r Tacle’ ar 0800 555 111.