Mae chwaraewr canol cae Abertawe, Ferrie Bodde, yn dweud ei fod o’n gobeithio dychwelyd i chwarae i’r Elyrch cyn diwedd y tymor.
Mae’r Iseldirwr wedi dechrau ymarfer unwaith eto ar ôl dioddef trydydd anaf difrifol i’w ben-glin, sydd wedi ei gadw ar yr ystlys ers mis Chwefror.
Ond mae Bodde wedi dechrau ymarfer am chwe diwrnod yr wythnos ‘nôl yn yr Iseldiroedd ac mae disgwyl iddo ddychwelyd i Abertawe yn y flwyddyn newydd.
Hedfanodd ffisiotherapydd Abertawe, Kate Rees, allan i’r Iseldiroedd yr wythnos diwethaf er mwyn asesu Ferrie Bodde.
“Mae pethau’n mynd yn dda iawn ar hyn o bryd, ac rwy’n siŵr y galla’i chwarae rhai gemau erbyn diwedd y tymor,” meddai Ferrie Bodde.
“Fe gychwynnodd y gwaith caled tua thair wythnos ‘nôl ac rwy’n credu fy mod i’n dechrau adfer.
“Rwy’n teimlo’n fwy hyderus nawr am fy mod i wedi bod yn yr un sefyllfa o’r blaen.
“Ond er fy mod i’n bositif, dw i ddim yn mynd i fy nhwyllo fy hun. Os na fyddai’n siŵr o’r ben-glin fydda’i ddim yn rhuthro ‘nôl i chwarae.”
“Rwy’n edrych ymlaen at chwarae eto. Mae’r bois a’r rheolwr yn gwneud yn dda. Maen nhw’n chwarae system llawer mwy positif eleni, ac mae Brendan Rodgers yn cael y gorau allan o’r chwaraewyr.”