Mae Cymdeithas yr Iaith wedi targedu swyddfa etholaeth yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt heddiw.
Roedd y protestwyr iaith yn ymgyrchu yn erbyn y toriadau i S4C a’r cynlluniau i uno’r sianel a’r BBC .
Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas eu bod nhw wedi codi posteri yn y swyddfa yn Hindhead, Surrey.
Roedd y posteri yn dweud: “Mae o [Jeremy Hunt] am ladd yr unig sianel deledu Cymraeg yn y byd.”
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Bethan Williams, ei bod hi’n bryd cymryd “camau difrifol” er mwyn achub y sianel.
“Rydym yn fudiad di-drais sydd yn gweithredu’n uniongyrchol fel opsiwn olaf. Mae’n haelodau wedi’u siomi cymaint gan frad y Llywodraeth nes eu bod yn fodlon cymryd camau difrifol er mwyn achub ein hunig sianel deledu Gymraeg.,” meddai Bethan Williams.
“Mae’n bwysig hefyd i ni gofio bod gwleidyddion y blaid geidwadol wedi bod yn addo cyn yr etholiad y byddai’r sianel yn saff yn eu dwylo nhw, mae’n glir nawr nad oedden nhw’n dweud y gwir.
“Mae’r sianel yn wynebu toriadau i’w chyllid a fydd, mewn termau real, dros 40%; bydd yn cael ei draflyncu gan y BBC; a bydd grymoedd eang yn cael eu rhoi yn nwylo Gweinidogion yn San Steffan i gael gwared a S4C yn llwyr. Dydy Jeremy Hunt ddim wedi ystyried goblygiadau hynny i ni yma yng Nghymru.”
Mae’n debyg bod yr Heddlu wedi gofyn i’r aelodau dynnu’r posteri i lawr, a’u bod nhw wedi gwrthod.
Nododd yr Heddlu fanylion yr ymgyrchwyr, ond ni chafodd yr un ohonyn nhw eu harestio heddiw, meddai’r Gymdeithas.
Dywedodd swyddog y wasg etholaeth Jeremy Hunt yn swyddfa Hindhead, Surrey heddiw ”ei bod yn deall fod y cyfan drosodd mewn hanner awr”.
“Mae’r Llywodraeth yn ymroddedig i ddarlledu iaith Gymraeg ac yn yr hinsawdd economaidd bresennol rydym ni’n credu mai’r ffordd orau o ddarparu gwasanaeth gwell ydi drwy gyd-weithio gyda’r BBC,” meddai llefarydd ar ran yr Adran Diwylliant.