Mae blaenasgellwr y Gleision, Martyn Williams, yn gobeithio y bydd Jamie Roberts yn gallu rhoi hwb i obeithion y rhanbarth yn y Cwpan Heineken.

Ar ôl colli 23-15 yn erbyn Northampton penwythnos diwethaf fe fydd rhaid i’r Gleision guro’r Saeson yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul i gael unrhyw obaith o fynd ymlaen i rownd nesaf y gystadleuaeth.

Mae Cyfarwyddwr Rygbi’r Gleision, Dai Young, wedi awgrymu y bydd Jamie Roberts yn dychwelyd wedi pum mis allan ar ôl llawdriniaeth i’w law.

“Mae dychweliad Jamie yn enfawr i’r rhanbarth ac i Gymru,” meddai Martyn Williams wrth bapur y South Wales Echo.

“Fe gafodd flwyddyn enfawr pan ddaeth i’r amlwg ar daith y Llewod. Mae Jamie’n cynnig rhywbeth gwahanol i ni ac mae wedi bod yn gweithio’n galed i chwarae eto.”

Tasg anodd

Mae Martyn Williams yn cydnabod bod tasg anodd yn wynebu’r Gleision ar ôl colli yn erbyn Northampton yn Franklin Gardens dydd Sadwrn diwethaf.

Er gwaethaf hynny, mae’n dal i obeithio y bydd y rhanbarth yn cyrraedd rownd wyth olaf y gystadleuaeth.

“Mae tair gêm i’w chwarae o hyd ond mae’n rhaid i ni ennill. Mae’n mynd i fod yn her i ni ac fe fydd rhaid i ni ddibynnu y bydd canlyniadau eraill yn mynd y ffordd iawn

“Fe allwn ni fynd ymlaen a dyna’r targed. Ond os fyddwn ni’n methu fe fydd Cwpan Her Amlin i chwarae amdano o hyd.”

Llun: Jamie Roberts