Mae’n ymddangos mai rheolwr Wrecsam, Dean Saunders, yw un o olynwyr posib Gary Speed yn Sheffield Uwd.

Mae yna adroddiadau mai Saunders a chyn rheolwr Hull City, Phil Brown, yw’r ffefrynnau i lenwi’r swydd wag ar ôl i Speed gael ei benodi’n rheolwr ar Gymru.

Fe dreuliodd y Cymro dymor 1997-98 yn Bramall Lane gan chwarae 43 gêm a sgorio 17 gôl i’r clwb.

Ond mae Dean Saunders wedi dweud nad yw’n gwybod dim byd am yr adroddiadau a’i fod yn canolbwyntio ar baratoi ar gyfer gêm Wrecsam yn erbyn AFC Wimbledon y penwythnos yma.

Mae’r Cymro yn credu ei fod wedi cael ei gysylltu gyda swydd Sheffield Utd oherwydd ei fod yn gyn chwaraewr.

Roedd Saunders ei hun wedi cael ei gysylltu gyda swydd rheolwr Cymru ar ôl treulio cyfnod yn hyfforddwr cynorthwyol i John Toshack.

Mae Saunders wedi bod yn rheolwr ar Wrecsam ers olynu Brian Little yn 2008 a hwn yw ei dymor gorau.