Mae cannoedd o brotestwyr wedi troi’n dreisgar yn Athen heddiw mewn protest fawr yn erbyn newid mewn amodau gwaith a diweithdra.
Roedd protestwyr yn malu ceir ac yn taflu bomiau petrol y tu allan i senedd y wlad.
Daeth y gwrthdaro wrth i 20,000 o brotestwyr orymdeithio i’r senedd yn ystod streic gyffredinol yn erbyn y toriadau a’r cyfyngiadau ar yr economi yng Ngwlad Groeg.
Mae’r holl wasanaethau awyr, rheilffordd a llongau wedi cael eu hatal ac mae newyddiadurwyr yn streicio hefyd gyda rhaglenni teledu a radio a phapurau fory’n cael eu canslo.
Fe gafodd economi’r wlad ei hachub ym mis Mai gyda €110 biliwn oddi wrth y Gymuned Ewropeaidd a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol.
Ond oherwydd yr amodau caeth, mae’r llywodraeth wedi gorfod torri cyflogau a phensiynau a chodi trethi ac oedran ymddeol er mwy lleihau diffyg ariannol y wlad.
Llun: Athen