Mae ymchwiliad gan Gyngor Ewrop wedi cyhuddo Kosovo o ladd carcharorion er mwyn gwerthu eu horganau ar ôl i ryfel annibyniaeth ddod i ben yno ym 1999.
Ar y pryd, roedd y genedl fechan yn yr hen Iwgoslafia’n cael cefnogaeth gan yr Unol Daleithiau.
Yn ôl prif ymchwiliwr Cyngor Ewrop, Dick Marty, cafodd carcharorion a ddaliwyd gan Fyddin Rhyddid Kosovo (BRK) eu saethu yng ngogledd Albania er mwyn tynnu eu harennau a’u gwerthu ar y farchnad ddu.
Mae’r adroddiad gan Gyngor Ewrop, a gymerodd fwy na dwy flynedd i’w grynhoi, yn awgrymu fod prif weinidog Kosovo yn bennaeth yn yr is-fyd troseddol a fu’n gyfrifol am y llofruddiaethau.
Wfftio
Wfftio’r adroddiad y mae llywodraeth Kosovo, gan ddweud bod yr adroddiad yn “ddi-sail” ac yn ymgais i “danseilio delwedd Byddin Rhyddid Kosovo”. Mewn datganiad gan y llywodraeth, cafodd Dick Marty ei gyhuddo o ragfarn ac “anwiredd.”
Arweiniodd Dick Marty dîm o ymchwilwyr o Gyngor Ewrop i Kosovo ac Albania yn 2009 yn dilyn honiadau o werthu organau gan y BRK mewn llyfr gan gyn-erlynydd troseddau rhyfel y Cenhedloedd Unedig, Carla Del Ponte.
Mae’r adroddiad 55 tudalen yn taflu goleuni newydd ar y BRK, a dderbyniodd gefnogaeth America yn y frwydr i sicrhau annibyniaeth oddi wrth Serbia yn 1999.
Heb eu cosbi
Yn ôl Dick Marty, roedd eisiau datgelu troseddau a aeth heb eu cosbi yn y cyfnod ar ôl y rhyfel.
Mae’r ymchwil wedi darganfod nifer o ganolfannau carcharu yn Albania, lle mae’n debygol fod gwrthwynebwyr y BRK a Serbiaid wedi cael eu dal ar ôl i frwydro Kosovo ddod i ben ym 1999.
Roedd y canolfannau hynny yn cynnwys “derbynfa safon uchel a fyddai’n addas ar gyfer gwerthu organau”.
Ffynonellau mewnol
Dywedodd Dick Marty fod ei dystiolaeth yn seiliedig ar dystiolaeth gan “ffynonellau y tu fewn i Fyddin Rhyddid Kosovo” fel gyrwyr a gwarchodwyr, yn ogystal â chyn-benaethiaid y fasnach organau.
Ond dyw’r adroddiad ddim yn enwi’r ffynonellau, na nifer y bobol a laddwyd.
Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod carcharorion yn cael eu symud i dŷ yn Albania a’u saethu o flaen llawfeddygon a fyddai’n symud y cyrff yn gyflym i glinigau i dynnu eu horganau.
Llun: Dick Marty