Mae diweithdra ym Mhrydain wedi cynyddu eto, gan amlygu pryderon ynglŷn â thoriadau’r Llywodraeth yn San Steffan.
Cynyddodd diweithdra 35,000 ar draws Prydain i 2.5 miliwn, y ffigwr uchaf ers dechrau’r flwyddyn.
Yn ôl y ffigyrau roedd cyflogaeth yn y sector gyhoeddus wedi disgyn 33,000 i ychydig mwy na chwe miliwn.
Roedd 839,000 o bobol wedi bod yn ddi-waith ers mwy na blwyddyn, cynnydd o 41,000 ar y tri mis blaenorol a’r ffigwr uchaf ers 1997.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol roedd cynnydd o 28,000 i 943,000 yn nifer y bobol 16 i 24 oed allan o waith, un o’r ffigyrau uchaf ers dechrau cadw cofnod yn 1992.
Cynyddodd nifer y bobol oedd yn gweithio’n rhan amser am nad oedden nhw’n gallu dod o hyd i swydd llawn amser 46,000 i 1.16 miliwn, record arall.
“Mae’r ffigyrau yma yn dangos pwysigrwydd gweithredu er mwyn cadw’r economi ar ei draed,” meddai’r gweinidog cyflogaeth, Chris Grayling.
“Mae’n hanfodol ein bod ni’n creu amgylchedd sefydlog fel bod busnesau yn gallu ffynnu a chreu swyddi.”
Nadolig diflas
Dywedodd llefarydd ar ran undeb GMB, Paul Kenny, bod Llywodraeth San Steffan yn anwybyddu gwersi hanes.
“Mae cynnydd mewn diweithdra yn dangos pa mor anodd ydi hi i’r di-waith ddod o hyd i swyddi. Mae yna dri pherson di-waith ar gyfer pob swydd wag,” meddai.
“Mae’r Llywodraeth yn tynnu arian allan o’r economi ac yn torri 350,000 o swyddi yn y sector gyhoeddus.
“Maen nhw’n anwybyddu gwersi hanes, sef ei bod hi’n amhosib torri nôl a disgwyl i’r economi dyfu ar yr un pryd.
“Mae yna amseroedd caled o’n blaen ni ac mae nifer o deuluoedd yn wynebu Nadolig diflas a 2011 diobaith.”