Mae yna newyddion gweddol i Gymru cyn y Nadolig gyda’r cyhoeddiad bod nifer y bobol mewn gwaith wedi cynyddu 6,000 i 1,325,000 yn y chwarter diwethaf.
Mae hynny’n golygu bod 24,000 mwy o bobol mewn gwaith yng Nghymru nag oedd flwyddyn yn ôl.
Syrthiodd nifer y rheini oedd yn economaidd anweithredol yng Nghymru 0.3% yn y tri mis cyn mis Hydref, i 26.3%.
Serch hynny roedd yna gynnydd o 4,000 yn nifer y di-waith yng Nghymru, i 125,000. Mae 8.6% o bobol Cymru yn ddi-waith, sydd uwchben y cyfartaledd Prydeinig, sef 7.9%.
Ymateb Llywodraeth y Cynulliad
Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad eu bod nhw’n parhau i fod yn wyliadwrus ynglŷn â’r adferiad economaidd yng Nghymru.
“Mae’n wir fod y ffigyrau diweddaraf yn dangos dau beth calonogol. Mae nifer y bobl mewn gwaith yng Nghymru wedi codi yn ystod y flwyddyn, tra bo’r nifer sy’n hawlio budd-dal diweithdra, y mesur mwyaf amserol o’r cyfanswm yn ceisio cefnogaeth, wedi syrthio 11.6 y cant dros y flwyddyn, mwy na’r Deyrnas Gyfun,” meddai Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones.
“Er gwaetha’r cynnydd yma, rydyn ni’n dal yn wyliadwrus. Rydyn ni’n dal i deimlo ôl-effeithiau’r dirwasgiad ac awgrym y data yma yw bod gwelliant economi gwledydd Prydain wedi arafu.
“Mae angen i bawb ohonom ni barhau i weithio gyda’n gilydd er mwyn sicrhau bod seiliau’r adferiad araf yma’n gadarn ac yma i aros.
“Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n canolbwyntio ar sicrhau’r adferiad economaidd – er gwaethaf y setliad ariannol llym o San Steffan.
“Rydyn ni’n benderfynol i ddal i gefnogi economi Cymru a buddsoddi mewn sgiliau, ymchwil a datblygu ac isadeiledd i sicrhau ein bod ni’n cystadlu â gweddill y byd.”
Ymateb Ysgrifennydd Cymru
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, ei bod hi’n croesawu’r “cynnydd bychan” yn nifer y bobol mewn gwaith yng Nghymru.
“Er ein bod ni’n croesawu’r ffigyrau yma maen nhw’n atgyfnerthu’r angen am wyliadwriaeth gyson a chydweithio ar draws y llywodraethau er mwyn sicrhau ein bod ni’n gwneud y gorau o’n cyfleon ac yn creu swyddi yng Nghymru,” meddai.