Mae nifer y dyfrgwn yng Nghymru wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf yn ôl arolwg newydd.
Yn ôl yr arolwg mae’r anifail wedi ymgartrefu mewn sawl ardal ar draws y wlad ble nad oedd son amdano 30 mlynedd ‘nôl.
Mae ‘Arolwg Dyfrgwn Cymru 2009-10’ Asiantaeth yr Amgylchedd yn dangos bod dyfrgwn bellach i’w cael mewn tua 1,000 man gwahanol ar draws y wlad.
Yn ôl yr arolwg mae dyfrgwn i’w cael yn 67% o’r safleoedd sy’n addas ar eu cyfer ar Ynys Môn, o’i gymharu gyda 18% pan wnaethpwyd yr arolwg diwethaf yn 2002.
Mae’r anifail bellach yn gyffredin iawn yn afonydd Cleddau, Teifi, Tywi a’r Llwchwr yng ngorllewin Cymru. Mae’r un peth yn wir am afon Hafren a Gwy yng nghanolbarth Cymru.
Mae afonydd Taf, Wysg a Chanolbarth Morgannwg hefyd wedi gweld cynnydd ers arolwg 2002.
Mae yna hefyd dystiolaeth bod dyfrgwn wedi ymgartrefu yng nghanol Caerdydd, yn yr afonydd Taf ac Elái.
Mae’r anifail hefyd yn defnyddio afonydd yn y cymoedd er gwaethaf presenoldeb pobl sy’n byw a gweithio’n gyfagos.
“Mae presenoldeb y dyfrgi yn brawf o lendid ein hafonydd a’n gwlypdiroedd,” meddai swyddog bioamrywiaeth Asiantaeth yr Amgylchedd, Rob Strachan.
“Mae ein hafonydd yn lanach nag ar unrhyw adeg yn y 20 mlynedd diwethaf ond r’yn ni’n parhau i gadw llygad arnyn nhw er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gwella eto.”