Gyda mwy o dywydd oer ac eira ar y ffordd, mae’r heddlu wedi rhybuddio’r cyhoedd i fod yn wyliadwrus er mwyn atal troseddwyr rhag cymryd mantais.
Cafodd sawl car ei ddwyn dros yr wythnosau diwethaf wrth i bobol eu gadael yn rhedeg gyda’r injans ymlaen er mwyn eu dadmer.
Cafodd car arall ei ddwyn yng Nghlos Cwm Golau, Merthyr am 6.45am bore ddoe.
Cipiodd lleidr y Vauxhall Corsa coch ar ôl i’r perchennog, dyn 27 blwydd oed, ddychwelyd i’w dŷ wrth ddisgwyl i rew glirio o ffenestr ei gar.
“Mae troseddwyr yn manteisio ar dywydd oer,” meddai Andy Evans o’r Heddlu.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu a welodd unrhyw un yn actio’n amheus yn yr ardal yn ystod y cyfnod dan sylw gysylltu â Heddlu Merthyr ar 101 neu Taclo’r Tacle’ ar 0800 555 111.
Daw hyn yn dilyn lladrad arall yn Sanderling Drive, St Mellons, Caerdydd am tua 8.30am ddydd Mawrth, Rhagfyr 7.
Roedd dynes 25 oed yn ceisio dadmer rhew oddi ar ffenestri ei Fiat Punto, ac wedi gadael yr allweddi yn y car. Daeth dau ddyn ati, ei gwthio o’r neilltu, a gyrru’r car i ffwrdd.