Mae Aelod Seneddol wedi dweud na ddylid codi braw ar bobol ynglŷn a ffliw moch eto eleni, ar ôl y panig mawr y llynedd.
Daw sylwadau Paul Flynn wedi i brofion gadarnhau bod tri disgybl mewn ysgol breifat i blant 3-16 oed yng Nghaerdydd wedi dal H1N1
Roedd yr Aelod Seneddol dros Orllewin Caerdydd yn un o’r rheini a fu’n cyflwyno tystiolaeth i Sefydliad Iechyd y Byd ynglŷn â’r pandemig ffliw moch yn gynharach eleni.
Roedd ei adroddiad i Gyngor Ewrop yn feirniadol o Sefydliad Iechyd y Byd gan ddweud eu bod nhw wedi gorliwio pa mor beryg oedd y ffliw heb dystiolaeth ddigonol i gefnogi hynny.
Dywedodd Paul Flynn wrth Golwg 360 bod y ffliw moch yng Nghaerdydd yn “broblem fach iawn o’i chymharu â’r ffliw arferol” sy’n debygol o effeithio ar fwy o bobol.
“Mae’n drist clywed bod y ffliw moch yn achosi problemau difrifol ond does dim pwynt colli ein pennau fel y llynedd,” meddai.
Dywedodd mai’r peth pwysig nawr yw “dysgu’r gwersi” yn dilyn profiad llynedd.
“Dyw’r mwyafrif llethol – o leiaf 80% – o’r pobol sydd wedi dal y ffliw moch ddim hyd yn oed yn gwybod hynny,” meddai.
“Mae nifer y marwolaethau hefyd wedi mynd i lawr 30% ers y llynedd.”
Disgyblion
Daw hyn wedi i ymchwiliad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau bod o leiaf tri disgybl wedi dal ffliw moch yn Ysgol y Gadeirlan yn Llandaf.
Cafodd y corff ei alw i mewn ar ôl i 120 o ddisgyblion yn yr ysgol breifat gael eu taro’n wael dros gyfnod o bythefnos.
Mae profion wedi cadarnhau bod tri disgybl yn yr ysgol annibynnol i blant 3-16 oed wedi dal H1N1.
“Er mwyn atal y salwch rhag lledu ymhellach ni ddylai rhieni anfon eu plant i’r ysgol os ydyn nhw’n dioddef o’r symptomau, a’u cadw nhw draw tan eu bod nhw’n gwella,” meddai Dr Gwen Lowe o Iechyd Cyhoeddus Cymru.