Y Mudiad Ysgolion Meithrin yw’r corff diweddara’ i feirniadu’r Llywodraeth am dorri cyllid S4C a rhoi ei harian yn nwylo’r BBC.
Mae’r Mudiad yn galw ar yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, i newid y penderfyniad gan ei feirniadu am weithredu ar frys a methu ag ymgynghori.
Yn ôl y Mudiad, mae rhaglenni plant S4C yn allweddol wrth geisio annog plant o gartrefi di-Gymraeg i ddefnyddio’r iaith.
“Gall torri cyllid i’r sianel olygu na ellir darparu mor effeithiol ar gyfer y genhedlaeth ifanc sydd mor bwysig i ddyfodol yr iaith Gymraeg,” meddai datganiad gan Brif Weithredwr y Mudiad, Hywel Jones.
‘Cyfraniad pwysig’
Roedd cyfraniad cyrff eraill fel y sianel yn bwysig i gefnogi gwaith y Mudiad, meddai, ac roedd y penderfyniad i greu gwasanaeth Cyw i blant bach yn “weithred arloesol”.
“Mae’n arf atodol gwych i gylchoedd y Mudiad ac ysgolion er mwyn sicrhau fod yr iaith yn cyrraedd cartrefi Cymry Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd, ac mae’n ategu ac ehangu gwaith y cylch mewn cartrefi ledled Cymru,” meddai’r datganiad.
“Gan fod 60% o’r plant sydd yn mynychu cylchoedd meithrin y Mudiad yn dod o gartrefi di-Gymraeg, mae sicrhau y gellir clywed yr iaith Gymraeg yn y cartrefi hynny, trwy arlwy’r Sianel, yn hynod o bwysig.”