Wrecsam 1 Luton Town 0

Mae rheolwr Wrecsam ar fin arwyddo amddiffynnwr newydd ar ôl gweld ei dîm yn ennill gêm galed ar y Cae Ras yn erbyn un o arweinwyr y Blue Premier.

Roedd Dean Saunders wrth ei fodd gyda’r perfformiad dygn mewn amgylchiadau anodd ond fe ddatgelodd wedyn ei fod yn ceisio bachu Mark Creighton o Rydychen er mwyn cryfhau’r garfan.

Os bydd yr holl waith papur yn ei le, fe allai’r chwaraewr profiadol fod yn y tîm i wynebu York City ddydd Sul.

Arwydd o’r angen am amddiffynnwr newydd oedd y ffaith fod Frank Sinclair wedi colli’r fuddugoliaeth neithiwr oherwydd anaf.

Gôl gynnar

Roedd gôl gynnar gan Andy Mangan yn ddigon i roi’r tri phwynt i Wrecsam a’u codi i’r seithfed safle a chadw Luton yn drydydd. Mae’r gogleddwyr bellach o fewn dau bwynt i Gasnewydd.

Roedd y gwynt yn rhannol gyfrifol am y gôl wrth i un o amddiffynwyr Luton fethu â phenio’r bêl yn glir a rhoi cyfle cymharol hawdd i Mangan.

Luton oedd gryfa’ am y rhan fwya’ o’r gêm mewn amgylchiadau stormus ond fe gafodd Wrecsam well cyfleoedd o flaen torf o fwy na 2,700.

Sylwadau Saunders

“Mi wnaethon ni weithio a gweithio a gweithio,” meddai Dean Saunders wedyn. “Luton oedd y ffefrynnau i ennill y Gynghrair – mae’n ganlyniad gwych.

“Rhaid i ni fynd â hyn ymlaen i’r gêm ddydd Sul. Y cyfan y galla’ i ofyn amdano yw eu bod yn rhoi popeth ac mi wnaethon nhw hynny.”

Llun: Y Cae Ras