Mae Warren Gatland wedi amddiffyn ei benderfyniad i gadw’r ffydd gyda haneri profiadol Cymru.
Roedd disgwyl y gallai’r mewnwr, Mike Phillips, a’r maswr, Stephen Jones, golli eu llefydd yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn ar ôl perfformiadau cymharol siomedig yn erbyn Awstralia.
Roedd rhai cyn-chwaraewyr rhyngwladol amlwg wedi bod yn galw am ddewis Richie Rees yn rhif 9 a Dan Biggar y tu allan iddo.
Ond, yn ôl hyfforddwr Cymru, roedd y ddau hanerwr profiadol wedi amddiffyn yn wych, gan wneud llwyth o daclo yn agos at y sgrym ac ar y llinell.
Eisiau ‘gêmau mawr’
“Maen nhw’n anhapus gyda rhai agweddau ar eu gêm,” meddai Gatland mewn cyfweliadau ar ôl cyhoeddi enwau’r tîm ddoe.
“Ond os edrychwch chi ar y fideo, fe welwch chi eu bod nhw wedi amddiffyn yn dda. Maen nhw’n gwybod bod rhaid iddyn nhw gael gemau mawr yn erbyn De Affrica.”
Roedd Mike Phillips ei hun wedi dweud wrth y BBC ei fod eisiau dangos pam mai ef yw’r dewis cynta’ i Gymru.
Mae llawer o’r sylw positif wedi bod ar y penderfyniad i ddewis yr asgellwr ifanc, George North, ar gyfer ei gap cynta’.
Llun: Warren Gatland