Fe fu gwrthdaro rhwng yr Unol Daleithiau a China yn uwch gynhadledd gwledydd mawr yr G20 ac mae’r ddwy wlad wedi cael eu cyhuddo o danseilio economïau gwledydd eraill.

Roedd yr Unol Daleithiau wedi ceisio perswadio’r Chineaid i ostwng gwerth ei harian, yr yuan, ond fe wrthododd Beijing ag ildio.

Amheuaeth gwledydd y Gorllewin yw bod China’n cadw gwerth yr arian yn isel er mwyn rhoi mantais gystadleuol iddi ym masnach y byd.

Mae’n ymddangos bellach y bydd hi’n amhosib cael cytundeb o unrhyw werth o’r uwch gynhadledd yn Seoul yn Ne Korea.

Cyhuddo’r Unol Daleithiau hefyd

Ond fe gafodd cyhuddiad o hunanoldeb ei wneud yn erbyn yr Unol Daleithiau, gyda Brasil, China, yr Almaen a’r Undeb Ewropeaidd ymhlith y beirniaid.

Mae hi’n cael ei chyhuddo o gadw pris y ddoler yn isel trwy gyhoeddi rhagor o arian er mwyn ceisio llacio’r argyfwng economaidd yn yr Unol Daleithiau ei hun.

Y ddoler yw prif arian y byd ond mae’r gwrthdaro gyda China’n dangos hefyd pa mor gryf yw hithau erbyn hyn.

Cameron yn rhybuddio rhag rhyfel masnach

Fe fu Prif Weinidog Prydain hefyd yn galw ar wledydd i beidio â chynnal polisïau i danseilio’i gilydd ac achosi rhyfel masnach.

Roedd hynny wedi arwain at ddirwasgiad mawr yn yr 1930au, meddai David Cameron, gan addo ymladd yn erbyn rhwystrau masnach a pholisïau sy’n tanseilio cymdogion.

Roedd ganddo yntau gyfeiriad anuniongyrchol at yr Unol Daleithiau a gwledydd eraill sy’n dal i geisio rhoi hwb i’w heconomïau yn hytrach na thorri fel y mae’r Llywodraeth yng ngwledydd Prydain.

“Rhaid i rai gwledydd, y rhai â diffygion mawr, fynd i’r afael â’r diffygion hynny,” meddai. “Dyw hynny ddim yn erbyn twf byd-eang, mae o blaid twf byd-eang.”