Fe fu gwyntoedd yn chwythu ar fwy na 90 millitir yr awr yn Eryri neithiwr wrth i Gymru gyfan gael ei tharo gan stormydd.
Yn ardal Capel Curig yr oedd y gwyntoedd cryfa’ yng ngwledydd Prydain ac fe fu hyrddiadau o tua 70 milltir yr awr mewn rhannau o dde Cymru hefyd.
Fe fethodd un awyren â glanio ym maes awyr Caerdydd, er gwaetha’ cynnig sawl tro, ac fe fu’n rhaid iddi hedfan i Birmingham yn lle hynny.
Ar un adeg roedd hen bont Hafren a Phont Britannia i Fôn ar gau ac mae yna adroddiadau am ddifrod mewn gwahanol fannau.
Roedd y stormydd yn wael yn Lloegr hefyd, gydag un wraig yn cael ei thrywanu gan gangen ar ôl i gar syrthio ar ei char yn Swydd Efrog.
Roedd yna lifogydd mewn rhannau o ogledd Lloegr.
Llun: Yr olygfa o Gapel Curig (Gowron – Trwydded GNU)