Mae Llywodraeth Prydain wedi methu ag ennill apêl er mwyn cymryd pasbort Prydeinig Abu Hamza oddi arno.

Cadarnhaodd y Comisiwn Apeliadau Mewnfudo Arbennig y bydd y pregethwr dadleuol yn cael ei gadw.

Cytunodd y llys y byddai’r clerigwr eithafol yn “ddi-genedl” petai’n colli ei basbort Prydeinig, ar ôl iddo golli ei basbort Eifftaidd yn y gorffennol.

Cafodd Abu Hamza, 52, ei garcharu am saith mlynedd ym mis Chwefror 2006 am annog llofruddio a chasineb hiliol.

Mae yn y ddalfa yng ngharchar Belmarsh Llundain ar hyn o bryd ac fe fydd yn cael ei anfon i’r Unol Daleithiau er mwyn wynebu cyhuddiadau terfysgol yno.

‘Siomedig’

“Rydym ni’n hynod siomedig gyda’r penderfyniad heddiw ac fe fyddwn ni’n ei ystyried yn ofalus,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref.

“Mae cenedligrwydd Brydeinig yn fraint ac mae gan yr Ysgrifennydd Cartref yr hawl i’w gymryd oddi ar bobol sydd â dau basbort os yw hynny er lles y cyhoedd.”