Mae’r cyn weinidog mewnfudo Phil Woolas wedi colli ei sedd heddiw ar ôl i lys etholiadol benderfynu ei fod wedi dweud celwydd ynglŷn ag un o’i wrthwynebwr yn etholiad cyffredinol mis Mai.

Fe gafodd yr achos ei ddwyn gan ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yno, dyn o dras Cymreig o’r enw Elwyn Watkins (dde).

Fe fydd yr AS yn cael ei wahardd o Dŷ’r Cyffredin am dair blynedd ac etholiad newydd yn cael ei gynnal yn sedd Oldham East a Saddleworth.

Dywedodd Phil Woolas y byddai’n brwydro yn erbyn y penderfyniad – y cyntaf o’i fath ers 99 mlynedd – a’i fod o eisiau adolygiad barnwrol.

Tensiynau hiliol

Clywodd y llys etholiadol arbennig bod Phil Woolas wedi corddi tensiynau hiliol mewn ymgais “ddespret” i gadw ei sedd.

Penderfynodd Elwyn Watkin herio canlyniad yr etholiad ar ôl gweld datganiadau a wnaed mewn pamffled a dau bapur newydd ffug.

Clywodd y llys bod y datganiadau’n honni bod cysylltiad rhwng Elwyn Watkins ac eithafwyr treisgar a’i fod wedi ceisio ennill ffafr Moslemiaid eithafol er mwyn cael pleidleisiau.

Dim ond 103 pleidlais oedd ynddi yn y diwedd.

Is-etholiad ar unwaith?

Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, fydd yn penderfynu a fydd yn cynnal isetholiad yn Oldham East a Saddleworth ar unwaith ynteu’n disgwyl tan ar ôl yr apêl.

Dywedodd swyddfa’r Llefarydd y byddai’n gwneud datganiad ar y mater ddydd Llun.