Mae blaenasgellwr Awstralia, David Pocock, yn dweud ei fod yn barod am y frwydr gorfforol yn erbyn Sam Warburton yfory.

Roedd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi rhybuddio yn gynharach yr wythnos yma bod y frwydr yn erbyn Pocock yn ardal y dacl yn un hanfodol er mwyn ennill y gêm.

Roedd nifer wedi disgwyl i Martyn Williams ddechrau yn erbyn Awstralia, ond fe aeth Gatland am Warburton yn ei le.

“Mae beth sy’n digwydd yn ardal y dacl yn cael effaith fawr ar weddill y gêm ac mae Warburton yn chwaraewr talentog iawn,” meddai Pocock.

“Mae’n gyflym ac mae’n gwneud penderfyniadau da – rwy’n edrych ymlaen at yr her o chwarae yn ei erbyn. Rwy’n credu y gallai ardal y dacl benderfynu canlyniad y gêm.”

Angen dyfarnwr da

Wrth i’r ddau dîm bwysleisio pwysigrwydd ardal y dacl, bydd penderfyniadau’r dyfarnwr hefyd yn chwarae rhan.

Mae David Pocock yn credu mai’r dyfarnwr o Loegr, Wayne Barnes, yw’r dyn cywir i ddyfarnu.

“Rwy’n credu bod Barnes yn ddyfarnwr da iawn. Mae’n siarad lot ac mae hynny’n helpu’r chwaraewyr.

“Gyda’r rheolau newydd mae’r fantais gyda’r tîm sy’n ymosod a dyna pam yr ‘yn ni’n gweld mwy o rygbi agored. Rwy’n gobeithio y byddwn ni’n gweld mwy o hynny ar y penwythnos.”