Mae gemydd sydd wedi ei chomisiynu i greu coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011 chwilio am griw o ddisgyblion ysgol i’w helpu.
Ac fe fydd y goron honno’n un arbennig – y flwyddyn honno, fe fydd yr enillydd yn cael cadw’r goron am byth, yn hytrach na chael copi bach.
Yn awr, mae’r gemydd Mari Thomas, ar fin dechrau ar daith o amgylch naw o ysgolion cynradd yn Abertawe i chwilio am syniadau.
Fe fydd hi’n beirniadu cystadleuaeth i ddylunio coron, gan farnu cynigion y plant. Fe fydd y tri enillydd yn cael ymuno gyda hi yn ei stiwdio i gynllunio’r goron go iawn.
Bydd y goron yn cael ei chyflwyno i lenor ifanc yn yr Eisteddfod, sydd i’w chynnal ar safle’r hen waith dur yn Felindre, Abertawe rhwng 30 Mai a 4 Mehefin.
Ysbrydoliaeth
Mae’r disgyblion wedi bod wrthi dros y gwyliau hanner tymor yn creu cynlluniau cyn mynd ati i lunio bob i goron. Y rheiny fydd yn cael eu dangos i’r beirniad.
“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gael teithio o amgylch yr ysgolion yn edrych ar waith y disgyblion” meddai Mari Thomas, sydd biau The Jewellery Gallery and Workshop yn yr Eglwys Norwyaidd yn natblygiad SA1 Abertawe.
“Dwi’n siŵr y bydd ambell un yn fy ysbrydoli yn fy ngwaith o ddylunio coron Eisteddfod yr Urdd.
“Mae gweithio gyda thalent ifanc bob amser yn brofiad gwych ac fe fydd teithio o amgylch yr ysgolion yma’n rhoi cyfle i mi ddod i adnabod rhai o’r disgyblion yn well cyn iddyn nhw ddod draw i’r stiwdio i gymryd rhan mewn gweithdy.”
Y naw ysgol sy’n cymryd rhan yw: Ysgol Gynradd Gymraeg Lon Las, Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn Iago, Ysgol Gynradd Gymraeg Brynymor, Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre, Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen, Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw, Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin, Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw, a Ysgol Gynradd Gymraeg Y Login Fach.