Mae Craig Bellamy’n dweud ei fod eisiau i Abertawe gyrraedd yr Uwch Gynghrair – a hynny ddeuddydd cyn iddo’u hwynebu am y tro cynta’ yn narbi fawr de Cymru.
Dywedodd Bellamy, a gafodd ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd, ei fod o’n ymwybodol faint oedd maeddu’r Elyrch yn ei olygu i gefnogwyr ei glwb.
“Dyma fydd y tro cyntaf i fi chwarae yn narbi de Cymru. Fe fydd hi’n wahanol i’r gemau darbi eraill yr ydw i wedi chwarae ynddyn nhw – dw i wedi tyfu i fyny gyda hon,” meddai Bellamy.
“Mae’n rhaid i chi barchu gymaint y mae’r ddarbi yn ei olygu i bobol Caerdydd ac Abertawe ond, yn y pen draw, mae’n gêm rhwng dau dîm sy’n gwneud yn dda iawn yn yr adran.
“Dyw’r timau ddim dan gymaint â hynny o bwysau felly fe ddylai fod yn gêm dda. Fe fyddwn ni’n gwneud ein gorau i gipio’r pwyntiau.”
Hwb i bêl-droed Cymru
Ychwanegodd Craig Bellamy ei bod yn bwysig iawn i bêl-droed yng Nghymru bod Caerdydd ac Abertawe yn llwyddo.
“Dyw pêl-droed Cymru ddim wedi bod ar ei gorau dros y degawdau diwethaf, mae wedi bod yn wael yn gyffredinol,” meddai.
“Felly mae cael dau dîm yn gwthio am le yn yr Uwch Gynghrair yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol.
“Mae’n bwysig cael o leiaf un clwb Cymreig yn yr Uwch ac, yn ddelfrydol, y ddau glwb. Mae’n dangos pa mor bell y mae’r ddau glwb wedi dod mewn cyfnod byr.”
(Llun: PA)