Mae ASau wedi galw am newid enw ‘Team GB’ i ‘Team UK’ cyn dechrau’r Gemau Olympaidd yn 2012.

Cafodd y cynnig yn Nhŷ’r Cyffredin ei gyflwyno gan lefarydd Olympaidd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd Gogledd Iwerddon, Gregory Campbell.

Mae o wedi ei arwyddo gan bump AS arall, gan gynnwys Kate Hoey, ymgynghorydd chwaraeon maer Llundain, Boris Johnson.

Mae’r cynnig yn cyfeirio at “fater enw tîm Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon”.

Roedd o’n “sylweddoli bod enw’r tîm yn cael ei gwtogi’n aml i ‘Team GB’” ac yn “croesawu’r ffaith bod Maer Llundain yn ddiweddar wedi cytuno gyda’r consensws synhwyrol y dylai’r tîm gael ei ailenwi’n Team UK”.

Roedden nhw’n “gobeithio y byddai’r awdurdodau chwaraeon perthnasol yn gweithredu cyn dechrau dathliadau’r gemau Olympaidd”.

Arwyddwyd y cynnig gan yr Aelodau Seneddol Jim Shannon (Strangford), David Simpson (Upper Bann) a Nigel Dodds (Gogledd Belfast), yn ogsytal â’r Tori, Andrew Percy (Brigg and Goole).

(Llun: Nicole Cooke, aelod o ‘Team GB’)