Mae cymylau o ludw poeth wedi bod yn codi o un o losgfynyddoedd mwyaf peryglus Indonesia heddiw, gan godi pryderon y bydd o’n parhau i ffrwydro am fisoedd eto.

Ychydig oriau yn ôl ffrwydrodd llosgfynydd Merapi eto, gan ladd chwech o bobol a gorfodi rhai oedd wedi aros ar ochrau’r mynydd i ffoi o’u pentrefi i lawr i lochesi argyfwng llywodraeth y wlad.

Mae 40 o bobol wedi marw ers iddo ddeffro ychydig dros wythnos yn ôl – bron bob un o ganlyniad i ffrwydrad arbennig o fawr ar 26 Hydref.

Mae gwyddonwyr yn dweud bod y ffrwydradau wedi gwaethygu dros yr wythnos ddiwethaf a bod y gwaethaf i ddod eto.

“Mae’n edrych fel pe baen ni’n dechrau ar gyfnod hyd yn oed yn waeth,” meddai Surono, un o arbenigwyr y wlad ar losgfynyddoedd.

“Does gyda ni ddim syniad beth sy’n mynd i ddigwydd rŵan.”

Mae 70,000 o bobol bellach yn y llochesi argyfwng ac mae’n bosib y bydd rhaid iddyn nhw aros yno am wythnosau, os nad misoedd.

Mae’r llosgfynydd 9,700 troedfedd ymysg y bywiocaf yn y byd ac wedi ffrwydro sawl gwaith dros y ganrif ddiwethaf.

Mae rhai o feysydd awyr Indonesia wedi gorfod cau am nad yw awyrennau yn gallu hedfan drwy’r cymylau llwch sy’n codi 20,000 troedfedd o begwn y llosgfynydd.