Mae asgellwr Caerdydd, Chris Burke yn awyddus i sicrhau bod cyfnod yr Adar Glas ar frig tabl y Bencampwriaeth yn parhau wrth i’r clwb baratoi i wynebu Abertawe.

Mae Caerdydd dau bwynt ar y blaen i QPR ar frig y Bencampwriaeth a chwe phwynt o flaen yr Elyrch sy’n drydydd.

Yn ogystal â’r elyniaeth rhwng y ddau dîm fe fydd buddugoliaeth yn allweddol er mwyn cynnal eu hymgyrch i ennill dyrchafiad.

“Mae’n neis iawn cael bod ar y brig, ond does dim pwynt bod yna dros dro – r’yn ni am wneud yn siŵr ein bod yn aros yno,” meddai Chris Burke.

“Er mwyn gwneud hynny mae’n rhaid i ni barhau i ennill a sicrhau’r tri phwynt yn erbyn Abertawe dydd Sul – ond ni fydd hi’n hawdd.

“Mae’n anodd iawn ennill cyfres o gemau yn y Bencampwriaeth. Ond r’yn ni wedi ennill pump allan o bump ac r’yn ni’n ffyddiog o ennill chwech o chwech.”

Mae Chris Burke wedi dweud ei fod yn awyddus i fod yn rhan o dîm buddugol Caerdydd yn y ddarbi ar ôl colli yn erbyn yr Elyrch tymor diwethaf.

Er bod y gemau darbi yn bwysig, roedd yr Albanwr hefyd am bwysleisio eu bod nhw’n trin y gêm fel un arferol ac i beidio â gadael i’r achlysur fynd yn drech na’r chwaraewyr.