Mae cais rhyddid gwybodaeth i Gyngor Rhondda Cynon Taf yn awgrymu bod pob aelod o staff yno wedi cymryd cyfartaledd o 17 diwrnod i ffwrdd yn sâl bob blwyddyn.
Mae’r data yn dangos bod gweithwyr y cyngor wedi cymryd 220,421 diwrnod i ffwrdd yn sâl yn y flwyddyn tan fis Mawrth. Mae gan y cyngor 12,672 o weithwyr.
Gwadodd y cyngor y ffigyrau, a ddaeth i’r amlwg ar ôl cais rhyddid gwybodaeth gan berson sydd eisiau aros yn ddienw.
Dywedodd llefarydd ar ran Cynghrair y Trethdalwyr bod gweithwyr yn y sector gyhoeddus eisoes yn cymryd mwy o amser i ffwrdd na gweithwyr yn y sector breifat – naw diwrnod y flwyddyn yn lle chwech.
“Mae’r cais rhyddid gwybodaeth yn awgrymu bod y sefyllfa yn fwy difrifol fyth yng nghyngor Rhondda Cynon Taf,” meddai wrth bapur newydd y Western Mail.
Dywedodd y cyngor bod honni fod y ffigyrau yn dangos bod pob aelod o’r staff yn cymryd 17 diwrnod i ffwrdd yn sâl bob blwyddyn yn “gamarweiniol”.
Dywedodd y cyngor bod eu gweithwyr wedi colli 4% o’u diwrnodiau ar gyfartaledd i salwch.