Mae cadeirydd Wrecsam, Ian Roberts, eisiau gwerthu’r clwb gan ddweud ei fod wedi cael digon ar bigo beiau cyson y cefnogwyr.

Dywedodd Ian Roberts wrth bapur newydd y Daily Post bod rhedeg y clwb yn “dasg ddiddiolch” oherwydd agwedd negyddol cefnogwyr y clwb.

Yn ôl y cadeirydd, fe allai Wrexham Village – y cwmni sy’n gyfrifol am Wrecsam a thîm rygbi’r gynghrair y Crusaders – werthu’r clwb pêl droed.

Mae cefnogwyr y clwb yn bwriadu protestio pan fydd Wrecsam yn chwarae Luton ar y Cae Ras ar 11 Tachwedd.

Ond mae Ian Roberts yn credu na fydd hyn yn helpu’r sefyllfa ac fe allai niweidio’r clwb ymhellach.

“Mae’n rhaid i’r cefnogwyr gefnogi’r clwb. R’yn ni’n seithfed yn y tabl ac mae pawb yn gweithio’n galed iawn y tu ôl i’r llenni.

“R’yn ni’n gweithio ar gynllun ar gyfer y dyfodol a cheisio dod â phobol i mewn a fydd yn gallu rhedeg pethau’n well.

“Os oes ‘na Sheikh am brynu’r clwb a mynd lan i’r Uwch Gynghrair, fe fyddwn ni’n hapus gyda hynny. Ond mae’n rhaid i’r cwyno diddiwedd ddod i ben – mae lladd y busnes.

“Yn anffodus mae ‘na grŵp sy’n ffynnu ar newyddion drwg a dydyn nhw ddim yn helpu pethau.”