Mae nodyn gan swyddogion Whitehall sydd wedi mynd i ddwylo’r wasg yn beirniadu cais gan Llywodraeth y Cynulliad am fand eang cyflym i Gymru.
Cyhoeddwyd fis diwethaf y byddai cynllun peilot band eang cyflym iawn yn cael ei gynnal yn Ucheldiroedd yr Alban, Gogledd Swydd Efrog, Cumbria a Swydd Henffordd.
Roedd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt wedi awgrymu y gallai Cymru elwa ar gysylltiadau band eang Henffordd am eu bod nhw “ar y ffin”.
Ond mae nodyn mewnol o’r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, a ddaeth i law papur newydd y Western Mail, yn beirniadu cais Llywodraeth y Cynulliad am gael eu cynnwys yn y cynllun peilot.
“Roedd hi’n amlwg o’r cynnig nad oedden nhw wedi gwneud lot o ymdrech wrth wneud y cais – roedd yna fwy o destun mewn un bocs yng nghynnig Swydd Henffordd nag yn cynnig cyfan Cymru.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad eu bod nhw wedi eu “synnu” gan y ddogfen, a’u bod nhw wedi cyflwyno cais “cadarn” i Lywodraeth San Steffan.
“Rydym ni’n siomedig iawn gyda chasgliadau Llywodraeth San Steffan, yn enwedig ar ôl iddyn nhw ofyn yn benodol i ni lynu at dempled y ffurflen gais er mwyn ei gwneud hi’n haws iddyn nhw ei phrosesu.”