Mae’r gwaith ailadeiladu ar un o brif theatrau Cymru wedi dechrau ar ôl ymgyrch bymtheg mlynedd.

Ond fe fydd yn rhaid i gwmni Theatr Sherman Cymru godi £825,000 dros y flwyddyn nesaf i gwblhau’r gwaith sy’n cael ei wneud dros y 12 mis nesaf gan gwmni Dawnus o Abertawe.

“Dyw hi ddim yn adeg dda i geisio codi arian,” meddai Emyr Jenkins, Cadeirydd Sherman Cymru. “Rhaid gweld yr £825,000 yng nghyd-destun y cynllun cyfan. Rydyn ni bron hanner ffordd.”

Mae’r cynllun i gyd yn werth £5miliwn gydag arian Loteri yn cyfrannu’r rhan fwyaf gyda disgwyl i’r theatr ei hun godi £1.36miliwn. Mae chwarter miliwn eisoes wedi dod gan ddau sefydliad mawr – The Foyle Foundation a’r Monument Trust.

“Mae gyda ni ffordd bell i fynd. Ond mae gweld y gwaith yn dechrau yn hwb mawr i bawb sy’n ymwneud â Sherman Cymru; mae e nawr yn weladwy.”

Caeodd y theatr ei ddrysau fis Chwefror eleni, a’r gobaith yw y bydd yn ailagor yn nhymor y Nadolig 2011.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 4 Hydref