Mae Prif Weinidog Prydain David Cameron wedi gwneud “uffarn o gamgymeriad” trwy ddigio’r Cymry dosbarth canol, yn ôl prif sgwennwr dychan Cymru.
Yn ôl Dafydd Huws, awdur Dyddiadur Dyn Dŵad, mae’r mela gwleidyddol gydag S4C wedi deffro’r dosbarth canol Cymraeg o’i thrwmgwsg.
“Efallai bod y Llywodraeth wedi gwneud uffarn o gamgymeriad,” meddai’r awdur, sy’n cyhoeddi ei lyfr olaf am anturiaethau Goronwy Jones, y Dyn Dŵad, yr wythnos yma, Nefar in Ewrop.
“Fuodd Thatcher yn gyfrwys; mi brynodd hi y dosbarth canol Cymraeg efo’r sianel. Gaeodd hi geg y dosbarth canol Cymraeg ac ro’n nhw’n cael cyfle i wneud pres.
“Rŵan, mae hwnna o dan fygythiad. Ac mi welwn ni ym mhrotest nesa’ Cymdeithas yr Iaith bobol na weloch chi mohonyn nhw ers cantoedd, os nad erioed.”
Bydd y brotest yn cael ei chynnal tu allan i Hen Swyddfa Gymreig, Parc Cathays, Caerdydd, am 11am.
Y stori llawn yng nghylchgrawn Golwg, 4 Hydref – ac yn Golwg yr wythnos nesa’ fe fydd Dafydd Huws yn egluro pam ei fod am ddod ag anturiaethau cymeriad y Dyn Dŵad i ben