Mae Arweinydd Llais Gwynedd wedi dweud “nad oes yr un ward yng Ngwynedd bellach y tu hwnt i afael y blaid” ar ôl buddugoliaeth mewn isetholiad neithiwr.
Roedd Owain Williams yn siarad ar ôl i Lais Gwynedd ennill Ward Seiont yng Nghaernarfon gyda mwyafrif o 120 o bleidleisiau.
Galwyd yr isetholiad yn Ward Seiont yn dilyn marwolaeth y Cynghorydd Annibynnol, Bob Anderson.
Mewn isetholiad gyda phump yn sefyll ynddi derbyniodd ymgeisydd Llais Gwynedd, Endaf Cooke, 399 o bleidleisiau, gyda Menna Wyn Thomas o Blaid Cymru’n derbyn 279.
Tecwyn Thomas o’r Blaid Lafur a ddaeth yn drydydd gyda 184 o bleidleisiau gyda’r ymgeisydd annibynnol, Gareth Edwards, yn cael 91, a Llinos Mai Thomas o’r Blaid Geidwadol Gymreig yn derbyn 23.
‘Llond bol’ – ymateb Llais Gwynedd
“Mae ennill gyda mwyafrif mor sylweddol mewn ward drefol yn chwalu’r canfyddiad mai ardaloedd gwledig a threfi bychain y sir sy’n berthnasol i Lais Gwynedd,” meddai Owain Williams.
“Mae’n arwydd arall fod trigolion y sir wedi cael llond bol o ddifrawder nawddoglyd Plaid Cymru tuag at eu cymunedau ble bynnag y maen nhw.”
Fe ddaeth Llais Gwynedd i’r amlwg ar ôl gwrthwynebu cau ysgolion bach – un o ddadleuon Cyngor Gwynedd ar y pryd oedd bod ysgolion mewn trefi fel Caernarfon yn diodde’ oherwydd y gwario ar y rheiny.
Ond, fel Bob Anderson o’i flaen, mae Endaf Cooke yn ddyn busnes adnabyddus yn y dref ac yn cadw siop chips ar y brif stryd.