Mae’r dyn busnes Donald Trump wedi cyhoeddi yn yr Alban heddiw ei fod yn ystyried cynnig i fod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Roedd y biliwnydd yn siarad ar ôl derbyn gradd er anrhydedd o Brifysgol Aberdeen – ar hyn o bryd mae’n adeiladu cwrs golff dadleuol gwerth £750 miliwn ar ystâd Menie yn yr ardal.

“Mae lot o bobol wedi dweud y dylwn i’w wneud o ond tan yn ddiweddar doedd gen i ddim diddordeb,” meddai ‘r hanner-Sgotyn a gafodd ei eni yn Efrog Newydd.

“A dyw hynny ddim oherwydd ein gwlad ni yn unig ond hefyd oherwydd eich gwlad chi. Mae yna lot fawr o drafod wedi bod ynglŷn â’r sefyll ac mae yna lot o bobol eisiau i fi wneud, ond dydw i ddim wedi penderfynu eto.”

Roedd hi’n “rhy gynnar” iddo ddewis rhywun i gynnig am swydd y Dirprwy Arlywydd gydag ef, meddai, gan chwerthin wrth i rywun awgrymu’r Weriniaethwraig Sarah Palin.


Obama – barn Trump

Dywedodd fod yr Arlywydd Barack Obama yn “cael amser caled. Rydw i’n meddwl mai fo fyddai’r cyntaf i gydnabod nad ydi pethau wedi bod yn hawdd”.

“Mae’r Unol Daleithiau yn wlad wych sydd ddim yn gwneud cystal ag y dylai. Fe allai wneud yn well, a gydag arweinyddiaeth dda fe allai wneud yn wych.”

Mae disgwyl i’r cwrs golff yn Swydd Aberdeen gael ei gwblhau yn 2012, yr un flwyddyn ag etholiad arlywyddol nesaf yr Unol Daleithiau.

Dywedodd Donald Trump bod y cwrs “yn well na dim” yr oedd wedi ei ddychmygu.