Mae capten tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad wedi cyhoeddi y bydd hi’n ymddeol, er iddi fethu a chipio medal aur am y drydedd bencampwriaeth Gemau’r Gymanwlad yn olynol ddoe.

Dywedodd Michaela Breeze y byddai’n ymddeol yn hapus ar ôl ennill medal arian yn y codi pwysau i ferched 63kg ddoe.

Ar un adeg roedd hi’n edrych fel petai trydedd fedal aur o fewn ei gafael wrth iddi arwain hanner ffordd drwy’r gystadleuaeth.

Ond gorffen yn ail i Obion Okoli o Nigeria oedd ei hanes yn y diwedd. Llwyddodd Okoli i godi 9kg yn fwy na’r Gymraes.

Roedd yn ddiwrnod emosiynol i Breeze wrth iddi ymddeol o’r gamp y mae wedi bod yn ymwneud â hi ers deunaw mlynedd.

“Fe ddes i yma i ennill yr aur, ond dwi wrth fy modd i gael yr arian, yn enwedig ar ôl yr anafiadau ydw i wedi eu cael,” meddai Breeze.

“Mae’n ddiwedd cyfnod a gyrfa 18 mlynedd,” ychwanegodd. “Dyma’r amser iawn i fi gymryd cam yn ôl a throsglwyddo’r cyfrifoldeb i’r codwyr pwysau iau.”