Mae’r heddlu a swyddogion iechyd a diogelwch yn ymchwilio ar ôl i ferch wyth oed farw mewn pwll nofio.

Fe gafodd ei chludo i’r ysbyty ddoe o wersyll carafanau Talacre Beach yn Sir y Fflint ond fe fu farw’n ddiweddarach.

Mae’r ferch yn dod o Orllewin y Midlands ond dyw ei henw ddim wedi cael ei gyhoeddi hyd yn hyn.

Roedd arwydd ar ddrws y pwll nofio heddiw yn dweud ei fod wedi ei gau tros dro.

Y gwersyll

Mae gwersyll Talacre Beach wedi cael ei raddio’n bum seren gan Croeso Cymru ac mae wedi ennill gwobrau am ei adnoddau a’i agwedd at gadwraeth.

Mae’r perchnogion yn ymhyfrydu yn yr adnoddau adloniant sydd ar gael ac yn ei hysbysebu fel lle delfrydol ar gyfer teuluoedd.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru does dim yn ddrwgdybus am y farwolaeth.

Llun: Yr arwydd ar y pwll nofio (GwifrenPA)