Scarlets 18 Y Gweilch 21

Roedd gan gefnogwyr y Scarlets yn y dorf fawr deimladau cymysg ar ôl colli o 21-18 i’w gelynion mawr, y Gweilch, ym mharc y Scarlets neithiwr.

Roedd yna ddicter bod pas ymlaen wedi rhoi cais pwysica’r gêm i’r rhanbarth o Abertawe ond balchder hefyd bod eu tîm wedi parhau i wella a chryfhau ers y tymor diwetha’.

Fe gawson nhw un pwynt bonws wrth i’r Gweilch ddangos eu cryfder wrth amddiffyn a’u gallu i gymryd cyfleoedd prin.

“Roedd hi’n gêm ardderchog ac yn noson wych,” meddai hyfforddwr y Gweilch, Sean Holley. “Fe wnaethon ni ennill yr ail hanner ac efallai ein bod yn haeddu’r fuddugoliaeth yn y pen draw.”

Y Gweilch yn amddiffyn

Fe fu’n rhaid i’r Gweilch amddiffyn yn galed trwy gydol yr hanner cynta’, wrth i’r Scarlets reoli pob agwedd ar y chwarae.

Roedd eu blaenwyr yn gyrru ymlaen yn y chwarae rhydd a’r canolwr Regan King (ar ei ben-blwydd yn 30 oed) yn bygwth torri trwodd sawl tro.

Ond dim ond tair cic gosb gan Stephen Jones a gafodd y Scarlets wrth orffen yr hanner 9-6 ar y blaen. Dan Biggar a gafodd bwyntiau’r Gweilch.

Dadleuol

Yn union wedi’r hanner, fe ddaeth digwyddiad mwya’ dadleuol y gêm gyda’r asgellwr, Richard Fussell, yn croesi yn y gornel ar ôl derbyn pas a oedd yn amlwg ymlaen. Ond chafodd hi ddim o’i rhoi gan y dyfarnwr, Nigel Owens.

Fe frwydrodd y Scarlets yn ôl ond fe gafodd y capten Alun Wyn Jones ail gais i’r Gweilch ar ôl 57 munud.

Er gwaetha’ rhagor o giciau cosb gan Stephen Jones, fe gafodd y gêm ei setlo gan gôl adlam gan Biggar.

Wrth gydnabod bod dadl tros gais cynta’r Gweilch, roedd Holley’n dadlau y dylen nhwthau fod wedi cael cais cosb wrth i’r Scarlets chwalu sgrymiau’n agos at y llinell.

Mae’r Scarlets a’r Gweilch bellach o fewn pwynt i’w gilydd yn nhabl y Magners, yn bedwerydd a phumed. Y Gleision sy’n ail.

Llun: Nigel Owens – penderfyniad dadleuol