Mae angen mwy o sylw i bobol gyffredin a llai i’r cyfoethogion, meddai’r unig ddyn o Gymru sy’n ceisio cael ei ethol ar Gyngor yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Yn ôl Christopher Huw Thomas o Eryri, mae’r Ymddiriedolaeth yn cowtowio gormod i’r cyn dirfeddianwyr mawr ar draul y bobol a greodd eu cyfoeth.
Mae angen ehangu ei hapêl er mwyn denu rhagor o ymwelwyr, meddai’r cyn uwch-reolwr gyda’r Gwasanaeth Iechyd sydd hefyd wedi gweithio ar gynlluniau cymorth tramor.
‘Gwneu cam’
Mae’r diffyg cydbwysedd a’r sylw gormod i dai moethus yn arwain at “gam-gyflwyno hanes lleol a chenedlaethol”, meddai yn ei ddatganiad wrth geisio cael ei ethol.
“Mae’r rhai a lafuriodd er mwyn i’r tai a’r trysorau yn cael eu sgwrio ymaith,” meddai. “Dylid dathlu eu hurddas a’u dynoliaeth nhw, nid yn unig er mwyn gwirionedd hanesyddol, ond oherwydd eu bod hefyd yn rhan o hanes hudolus a stormus Prydain.”
Mae Christopher Huw Thomas ar hyn o bryd yn astudio’r cysylltiad rhwng y diwydiant llechi a chaethwasiaeth – y ddau faes a dalodd am un o dai bonedd enwoca’ Cymru, Castell y Penrhyn, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth.
Llun: Castell y Penrhyn (Indigo Goat CCA 2.0)