Mae disgwyl y bydd Llywodraeth yr Unol Daleithiau’n rhoi rhybudd i Americaniaid fod yn ofalus wrth ymweld ag Ewrop.

Yn ôl y cyfryngau yno, fe allai’r cyhoeddiad ddod heddiw, wrth i wasanaethau diogelwch ar ddwy ochr yr Iwerydd rybuddio rhag cynllwyn terfysgol.

Fe allai’r rhybudd wneud drwg i’r diwydiant twristaidd yng ngwledydd Prydain gan wneud i Americaniaid feddwl ddwywaith cyn teithio draw.

Yn hytrach na rhybuddio pobol i beidio â theithio o gwbl i Ewrop, y disgwyl yw y bydd y Llywodraeth yn Washington yn dweud bod angen gofal arbennig a chadw draw o dargedau amlwg fel safleoedd twristaidd a chanolfannau trafnidiaeth.

Y cynllwyn

Fe ddaeth gwybodaeth am y cynllwyn terfysgol honedig yr wythnos ddiwetha’, gyda sôn am ymosodiadau uniongyrchol yng ngwledydd Prydain, Ffrainc a’r Almaen.

Os yw’r gwasanaethau diogelwch yn gywir, fe fyddai’n golygu bod dynion arfog yn cipio pobol gyffredin ac yn eu saethu, yn debyg i ymosodiad ym Mumbai yn India yn 2008.

Yn y gorffennol, mae’r awdurdodau wedi cael eu cyhuddo o greu ofn diangen ond maen nhwthau’n dweud bod degau o ymosodiadau posib wedi eu hatal oherwydd gwaith y gwasanaethau cudd.

Yn ôl papurau yn yr Unol Daleithiau, ofn y cynllwyn oedd yn gyfrifol am y cynnydd mewn ymosodiadau gan awyrennau di-beilot Americanaidd ym Mhacistan yn ystod yr wythnosau diwetha’.

Llun: Ymosodiad Mumbai 2008 (ManojNair CCA2.0)