Mae disgwyl y bydd rhwng 5,000 a 10,000 o bobol yn protestio heddiw y tu allan i Gynhadledd y Ceidwadwyr ym Mirmingham.

Fe fydd yr undebwr Llafur o Gymro, Mark Serwotka, ymhlith yr arweinwyr a fydd yn areithio’n erbyn toriadau’r Llywodraeth mewn gwario cyhoeddus.

Maen nhw’n dweud mai’r tlota’ fydd yn diodde’ fwya’ a bod pobol gyffredin yn gorfod talu am broblemau a oedd wedi eu creu gan eraill.

Ond mae’r Prif Weinidog wedi dweud bod angen cadw “perspectif” ar y toriadau, gan ddweud bod busnesau preifat wedi gorfod torri llawer mwy.

Fe wnaeth David Cameron gyfres o gyfweliadau papur newydd wrth i’r Torïaid baratoi i gynnal eu cynhadledd gynta’ ers dod yn ôl i rym.

Ceidwadwyr yn poeni am amddiffyn

Y toriadau sy’n debyg o fynd â’r holl sylw ym Mirmingham lle mae rhai Ceidwadwyr hefyd yn anniddig tros y cwtogi ar wario amddiffyn.

Ond fe ddywedodd David Cameron heddiw y byddai gan y lluoedd arfog “bopeth oedd ei eisiau arnyn nhw” i barhau i ymladd ym Afghanistan.

Y testun mawr arall fydd budd-daliadau, gyda’r Gweinidog Gwaith a Phensiwn, Ian Duncan Smith, yn cadarnhau ddoe y bydd un budd-dal cyffredinol yn cael ei greu yn lle’r amrywiaeth o fudd-daliadau sy’n bod ar hyn o bryd.

Mae yna ddyfalu hefyd y bydd budd-dal plant yn dod i ben pan fydd plant yn 16 oed, gan arbed tua £2 biliwn o wario.

Llun: David Cameron (Gwifren PA)