Mae dwyn a thwyllo ar-lein yn cynyddu’n gyflym a dyw’r heddlu ddim yn gallu delio gyda’r rhan fwya’ o’r gangiau sydd wrthi, meddai prif blismon Cymru a Lloegr.

Roedd yn rhybuddio gwleidyddion rhag canolbwyntio’n llwyr ar blismyn mewn iwnifform, wrth iddyn nhw ystyried y toriadau mewn gwario cyhoeddus.

Yn ôl pennaeth Heddlu Llundain, Syr Paul Stephenson, mae tua 6,000 o gangiau’n trefnu troseddau mawr ac mae gan y rhan fwya’ ohonyn nhw arbenigwyr sy’n gweithio ar-lein.

Er hynny, meddai wrth bapur y Sunday Telegraph, dim ond tuag 11% o’r troseddau sy’n gallu cael eu taclo’n effeithiol gan yr heddlu ar hyn o bryd ac roedd hi’n bwysig deall nad dim ond plismyn mewn iwnifform sy’n gwarchod rhag tor-cyfraith.

Wrth i’r Llywodraeth baratoi i gyhoeddi maint y toriadau mewn gwario yn ddiweddarach y mis yma, mae rhai gwleidyddion a grwpiau wedi galw am ddiogelu ‘plismyn ar y bît’ ond, yn ôl Syr Paul, mae arbenigwyr wrth-eu-desg yn bwysig hefyd.

Prinder adnoddau

Dim ond 385 swyddog arbenigol oedd yn delio gyda throseddau ar-lein yng Nghymru a Lloegr ac roedd 85% o’r rheiny’n delio gyda masnachu pobol a phornograffi.

“Mae fy swyddogion yn dweud wrtha’ i bod adnoddau swyddogion y gyfraith yn brin o’i gymharu â’r hyn sy’n debyg o fod ar gael i droseddwyr ar-lein,” meddai.

Yn ô Paul Stephenson, mae uned arbenigol Heddlu Llundain yn costio £2.75 miliwn y flwyddyn ond mae’n arbed 21 gwaith hynny trwy ddatrys troseddau.

Llun: Heddlu Llundain