Mae o leia’ dri o bobol o wledydd Prydain – efallai bedwar – wedi marw mewn damwain awyren fechan ym Mheriw.
Fe ddaeth cadarnhad swyddogol fod chwech o bobol i gyd wedi cael eu lladd – pedwar o dwristiaid a dau aelod lleol o’r criw.
Roedd hi’n hedfan uwchben un o atyniadau twristaidd mwya’r wlad – Llinellau Nasca, patrymau anferth yn y tywod a gafodd eu creu ganrifoedd yn ôl.
Yn ôl heddlu lleol, roedd y pedwar ymwelydd yn dod o wledydd Prydain – tri dyn ac un wraig – ond yn ôl y Swyddfa Dramor yn Llundain, dim ond tri oedd yn bendant o’r Deyrnas Unedig.
Glanio ar frys
Mae’n ymddangos fod y peilot wedi gorfod ceisio glanio ar frys oherwydd problemau injan wrth hedfan tros yr atyniad sydd fwy na 200 milltir i’r de o brifddinas Periw, Lima.
Fe gafodd yr awyren Cessna fechan ei chwalu ar ôl taro’r ddaear ac fe fu damwain debyg ym mis Chwefror pan laddwyd saith o bobol.
Dim ond o’r awyr y mae modd gweld y patrymau’n iawn yn yr anialwch. Mae wedi ei ddynodi’n Safle Treftadaeth Byd gan y corff diwylliant rhyngwladol, UNESCO.
Llun: Gweddillion yr awyren (AP Photo)